Prif swyddfa McAfee (Kelly CCA2.0)
Mae nifer y plant sy’n cael eu bwlio dros y we wedi dyblu’r flwyddyn yma, gyda mwy nag un o bob tri yn cael eu targedu erbyn hyn.

Cafodd tua 2,000 o blant 11-17 eu holi gan gwmni diogelwch ar-lein McAfee, ac fe ddywedodd 35% eu bod wedi cael eu bwlio dros y we o’i gymharu gydag 16% y llynedd.

Roedd pedwar o bob deg wedi gweld rhywun arall yn cael eu bwlio ar-lein – ffigwr arall sydd wedi dyblu ers y llynedd.

Fe ddaeth i’r amlwg hefyd bod miloedd o bobol yn eu harddegau, gan gynnwys rhai o dan 15 oed, yn defnyddio’r gwasanaeth Snapchat a’r ap chwilio am ddêt, Tinder, bob dydd.

Rhieni

Roedd yr arolwg wedi gofyn am ymateb y rheini hefyd, ond roedd hynny’n awgrymu bod llai yn pryderu am y risg a all wynebu eu plant.

Dim ond 27% oedd yn dweud eu bod yn poeni bod eu plant yn cael eu bwlio dros y we – bron hanner y 45% o rieni a ddywedodd eu bod yn poeni’r llynedd.

Mae’r pôl hefyd yn awgrymu bod 67% o blant yn gallu mynd ar y We heb gael eu goruchwylio.

“Mae’r ymateb i arolwg McAfee yn dangos bod bwlch mawr rhwng pryder rheini a’r realiti o fwlio plant dros y we,” meddai Andy Phippen, darlithydd ar gyfrifoldeb cymdeithasol mewn Technoleg Gwybodaeth ym Mhrifysgol Plymouth.

“Mae’n amser i rieni i fod yn fwy hyddysg am y gwefannau cymdeithasol.”