Y llong fferi yn suddo yn Ne Corea
Mewn llys yn Ne Corea, mae capten llong fferi a suddodd wedi cael ei ddedfrydu i 36 mlynedd yn y carchar ar ôl ei gael yn euog o esgeulustod bwriadol ond yn ddieuog o lofruddiaeth.
Bu farw 300 o bobl yn y trychineb ym mis Ebrill. Roedd y rhan fwyaf o’r rhai fu farw yn fyfyrwyr yn eu harddegau oedd ar daith ysgol.
Mae’r capten Lee Joon-seok wedi ymddiheuro am adael y teithwyr yn gaeth ar y llong fferi wrth iddi suddo, ond dywedodd nad oedd yn gwybod y byddai ei weithredoedd yn arwain at gymaint o farwolaethau.
Cafodd prif beiriannydd y llong ddedfryd o 30 mlynedd a chafodd 13 aelod arall o’r criw eu dedfrydu i hyd at 20 mlynedd yn y carchar ar ôl iddyn nhw eu cael yn euog o gynllwynio i adael y llong wrth iddi suddo, er eu bod yn gwybod bod teithwyr yn dal yn gaeth y tu mewn.
Fe allai Lee Joon-seok fod wedi cael ei ddienyddio petai wedi ei gael yn euog o lofruddio. Nid yw De Corea wedi dienyddio unrhyw un ers 1997.
Fe fydd gan yr erlyniad ac aelodau o’r criw wythnos i apelio yn erbyn y ddedfryd, meddai’r llys.
Roedd 476 o bobl ar fwrdd y llong ond dim ond 172 gafodd eu hachub. Naw mis ers y trychineb, mae 295 o gyrff wedi cael eu darganfod ond mae naw yn dal ar goll. Mae swyddogion yn Ne Corea wedi dweud bod y chwilio am ragor o gyrff bellach wedi dod i ben.