David Cameron
Mae David Cameron wedi dweud ei fod eisiau i Sbaen aros yn “wlad unedig” ar ôl i refferendwm yng Nghatalwnia ddangos bod 80% o bobol yn cefnogi annibyniaeth.
Dywedodd Prif Weinidog Prydain heddiw y dylai unrhyw bleidlais ar annibyniaeth ddilyn y “fframwaith cyfreithiol a chyfansoddiadol gywir” yn dilyn y refferendwm anffurfiol dros y penwythnos.
Fe wnaeth tua 1.6 miliwn o tua dwy filiwn o bobol yn y rhanbarth bleidleisio o blaid annibyniaeth.
Ond ni wnaeth mwyafrif y boblogaeth yn y rhanbarth, sy’n gartref i tua 5.4 miliwn o bobol, fwrw pleidlais – unai am eu bod nhw’n cwestiynu cyfreithlondeb y refferendwm neu eu bod yn erbyn i Gatalwnia dorri’n rhydd o weddill Sbaen.
Cyd-weithio
Mewn neges i Brif Weinidog Sbaen a thrigolion y wlad, dywedodd David Cameron:
“Mi faswn i’n hoffi dweud wrth fy ffrind Mariano Rajoy ac wrth bawb yn Sbaen, mae Prydain yn ffrind i’r wlad, rydym yn gweithio’n agos iawn gyda chi mewn sawl ffordd.
“Rydym am i Sbaen aros yn wlad unedig.”
Fe wnaeth Llywodraeth Sbaen ddyfarnu nad oedd gan Gatalwnia’r hawl i gynnal y bleidlais yn swyddogol gan y byddai’n effeithio ar Sbaen gyfan.
Mae Catalwnia yn un o ardaloedd fwyaf cyfoethog a diwydiannol Sbaen.