Y Coliseum, Porthmadog
Mae Cyngor Gwynedd wedi oedi cyn gwneud penderfyniad ar ddyfodol sinema’r Coliseum ym Mhorthmadog nes bod arolwg wedi’i gwblhau i ddarganfod a oes yna ystlumod yn byw yn yr adeilad.

Ni fydd yr arolwg yn cael ei gynnal tan o leiaf fis Mai y flwyddyn nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: “Mae Uned Bioamrywiaeth y Cyngor wedi cynnal ymweliad a’r safle ac maen nhw o’r farn bod angen cynnal arolwg er mwyn canfod os oes unrhyw ystlumod posib ar y safle.”

Mae’r datblygwyr Development UK Northern Ltd yn bwriadu dymchwel yr adeilad, ond mae’r Cyngor yn credu fod angen archwiliad llawn o’r adeilad cyn gwneud penderfyniad terfynol.

“Bydd rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno arolwg ystlumod sydd yn cynnwys archwiliad llawn o’r adeilad ag i gynnwys unrhyw fesuriadau lliniaru perthnasol os darganfyddir ystlumod yno. Byddwn yn ystyried y canlyniadau cyn penderfynu ar gais yr ymgeisydd,” meddai Cyngor Gwynedd.

Gall fod yn newyddion da i ymgyrchwyr yn lleol sydd wedi bod yn ceisio achub yr adeilad Art Deco rhag cael ei dymchwel.