Artur Mas - Llywydd Catalonia
Mae adroddiadau o Gatalonia yn honni bod mwy na miliwn o bleidleiswyr yn cymryd rhan heddiw mewn pleidlais anffurfiol ynghylch a ddylai’r rhanbarth gwahanu oddi wrth weddill Sbaen.
Er i lys cyfansoddiadol Sbaen gorchymyn na ddylai’r bleidlais ddigwydd oherwydd ei bod yn anghyfreithlon mae llywodraeth ranbarthol Catalonia wedi bwrw ’mlaen gyda’r bleidlais.
Yn nhyb llywodraeth Catalonia mae mwy na 1.1 miliwn o’r 5.4 miliwn yn bleidleiswyr rhestredig wedi pleidleisio erbyn 1yp amser lleol
Dywedodd AS Ewrop Plaid Cymru, Jill Evans,sydd yn Barcelona yn gweld y bleidlais, bod y gorsafoedd pleidleisio wedi bod yn llenwi o fewn funudau i agor.
Meddai Llywydd Catalonia, Artur Mas: “Er gwaethaf y rhwystrau enfawr, yr ydym wedi llwyddo i fynd allan y blychau pleidleisio a phleidleisio.”
Roedd y bleidlais yn gofyn dau gwestiwn: Dylai Catalonia fod yn wladwriaeth, ac os felly, dylai fod yn annibynnol.Mae’r arolygon yn dangos bod y rhan fwyaf o 7.5 miliwn o drigolion Catalonia yn dymuno pleidlais swyddogol ar annibyniaeth.
Undeb hynafol
Credir bod tua hanner y pleidleiswyr yn cefnogi torri’r undeb sydd wedi bodoli ers 1469, pan unodd Teyrnas Aragon â Theyrnas Castille drwy briodas Brenin Ferdinand II a’r Frenhines Isabella gan greu Sbaen.
Meddai Nuria Silvestre, athrawes 44 oed, ei bod wedi mynd i blaidleisio o blaid annibyniaeth oherwydd bod y llywodraeth yn Madrid wedi ceisio atal y bleidlais.
Mae disgwyl bydd cyfreithwyr gwladwriaeth Sbaen yn cychwyn achos llys dros y bleidlais, yn erbyn llywodraeth Catalonia.