Bydd mudiad yn ysgrifennu at gwmni archfarchnad i’w hysbysebu bod mynnu gweithwyr i beidio siarad Cymraeg yn anghyfreithlon.

Cafodd Lidl ei feirniadu yn hallt gan Ddyfodol i’r Iaith wedi iddynt  ddatgan mai Saesneg yw iaith swyddogol y cwmni.

Daw sylwadau Dyfodol i’r Iaith wedi i bolisi Lidl UK o wahardd staff rhag siarad ieithoedd heblaw am Saesneg gyda’i gilydd ddod i’r amlwg, yn dilyn digwyddiad yn yr Alban.

Yno roedd dau weithiwr Pwylaidd ddweud eu bod nhw “wedi cael eu bygwth â diswyddiad” am siarad Pwyleg yn ystod seibiant.

Yn dilyn hyn mae Lidl wedi derbyn cwestiynau am eu safbwynt ar y Gymraeg.

Mae Lidl wedi bod yn newid eu safbwynt ar iaith yn ystod y penwythnos gan ddechrau trwy ddweud mai Saesneg yw iaith swyddogol y cwmni.

Erbyn hyn mae Lidl yn dweud eu bod yn cydnabod bod ieithoedd eraill yn cael eu siarad ym Mhrydain ac na fyddent yn “gwahardd” defnyddio Cymraeg yn eu siopau.

Agwedd Ganol Oesol

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith: “Rydym wedi ysgrifennu at y cwmni heddiw i’w hysbysu fod polisi o wahardd pobl yng Nghymru rhag siarad Cymraeg yn anghyfreithlon.

“Mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Does dim modd i gwmni preifat wahardd iaith swyddogol gwlad.”

“Mae gwaharddiad ar y Gymraeg fel hyn yn atgoffa dyn o ddeddfau penyd yr Oesoedd Canol. Does dim modd ei gyfiawnhau mewn cymdeithas wâr.

“Mae’r achos yma’n ei gwneud yn glir bod angen i’r Ddeddf Iaith a phwerau’r Comisiynydd Iaith gwmpasu’r sector preifat.”

Meddai llefarydd ar ran Lidl UK: “Hoffwn sicrhau ein gweithwyr, cwsmeriaid a’r cyhoedd ein bod ni’n adolygu ein polisïau yn gyson, ac yn ystyried yr holl ymateb sydd wedi’n cyrraedd.”