Amnest gynnau ar fin cychwyn.
Bydd ymgyrch i gael gwared a gynnau a bwledi sy’n cael eu cadw heb drwydded yn cychwyn ‘fory yn rhan helaeth o Gymru.
Mae gwasanaethau heddlu Dyfed-Powys, De Cymru a Gwent yn rhedeg yr ymgyrch ‘Cadw Cymru’n Ddiogel, rhoi’r gorau y gwn,’ ar y cyd dros y pythefnos nesaf.
Yn ôl yr heddlu made rhai arfau yn cael eu cadw yn anghyfreithlon oherwydd anwybodaeth, y drwydded wedi dod i ben neu eu bod wedi eu hanghofio.
Meddai Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Dyfed Powys Simon Powell: “Mae ardal Dyfed Powys yn lle diogel iawn i fyw, gweithio ac ymweld. Ac i ddiogelu ein cymunedau ymhellach, rydym am wneud popeth y gallwn i sicrhau bod unrhyw ddrylliau didrwydded yn cael eu gwaredu, fel nad ydynt yn mynd i’r dwylo anghywir.
“Felly mae’r amnest yna caniatáu i aelodau o’r cyhoedd a allai fod wedi dod i feddiant dryll drwy ddulliau diniwed neu fel arall, i’w ildio.
Am fwy o wybodaeth ar sut i gael gwared ar yr arfau, cysylltwch â’ch heddlu perthnasol ar 101 a gwneud trefniadau ar gyfer yr eitemau hyn gael eu casglu.