Arian Ewrop yn broblem i David Cameron (Llun llyfrgell)
Mae David Cameron wedi mynnu na fydd yn cyfaddawdu ynglŷn â’r bil o £1.7biliwn y mae’r Undeb Ewropeaidd wedi gofyn i Brydain ei dalu erbyn 1 Rhagfyr eleni.

Dywedodd Prif Weinidog Prydain wrth arweinwyr eraill gwledydd gogledd Ewrop fod y ffrae hefyd yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y bydd Prydain yn gadael yr Undeb.

Ond mae rhai o’r arweinwyr eraill, a oedd wedi eu dewis yn fwriadol gan David Cameron, wedi rhybuddio nad oes modd cyfaddawdu ar y syniad o farchnad lafur rydd yn Ewrop.

Mae hynny’n ddyrnod i ymgais y Prif Weinidog i gyfyngu ar fewnfudo i wledydd Prydain.

‘Talu fesul chydig’

Mae disgwyl y bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn cynnig bod Llywodraeth Prydain yn talu’r £1.7bn dros gyfnod o flwyddyn, yn hytrach nag mewn un swm mawr fis nesaf.

Ond mae David Cameron yn mynnu nad yw’n hapus fod y swm mor uchel yn y lle cyntaf, ac y dylai’r Undeb Ewropeaidd fod yn fwy “hyblyg”.

Mae’r bil wedi ei seilio ar amcangyfrifon newydd gan y Llywodraeth ei hun o berfformiad yr economi yng ngwledydd Prydain.

Rhybudd i Ewrop

Wrth gyfarfod arweinwyr y Ffindir, Sweden, Estonia, Denmarc, Gwlad yr Ia, Latvia, Lithuania a Norwy fe ddywedodd Cameron bod y polau piniwn ym Mhrydain wedi symud o 10% tuag at adael yr Undeb Ewropeaidd ers i’r bil gael ei gyflwyno.

Mae’r bil yn rhan o gyfraniad Prydain i gyllideb yr Undeb, gyda’r gwledydd cyfoethocaf yn cyfrannu’r symiau mwyaf.

Fe ofynnwyd am £1.7bn ychwanegol gan Brydain oherwydd bod ei heconomi wedi bod yn perfformio’n well na’r disgwyl, gyda gwledydd eraill hefyd yn derbyn cais am ragor o arian.

Ond dywedodd Cameron wrth yr arweinwyr eraill yn Helsinki fod y bil yn “annerbyniol”, ei fod wedi dod yn rhy fyr rybudd, ac na fyddai Prydain yn talu “unrhyw beth” yn agos at y swm hwnnw.

“[Mae hyn yn esiampl berffaith o bryd sydd angen i’r Undeb Ewropeaidd ddangos fod yn fwy hyblyg ac ymateb i bryderon etholwyr,” meddai Cameron.

Rhybuddiodd y gallai gwledydd eraill ganfod eu hunain yn yr un safle a Phrydain o wynebu bil annisgwyl yn y dyfodol.

Eraill yn cyfaddawdu

Fodd bynnag, mae’n bosib na fydd gan y Prif Weinidog gymaint o gefnogaeth yn rhannau eraill o’r cyfandir ac yr oedd wedi’i obeithio, gyda gwledydd eraill nawr yn awgrymu’u bod yn barod i gefnogi safbwynt yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd gweinidog cyllid Iwerddon, Michael Noonan, ei fod yn credu y dylai pawb dalu beth sydd yn rhaid iddyn nhw a “dilyn rheolau Ewrop”, ond y byddai’n fodlon gweld Prydain yn talu dros gyfnod o amser.

Mae’n edrych yn debygol hefyd y bydd yr Iseldiroedd, a gafodd fil ychwanegol o £600m, yn barod i dderbyn cynnig yr Undeb i dalu’r arian i gyd dros gyfnod o amser.

‘Problem’

Dywedodd Prif Weinidog y Ffindir, Alexander Stubb, ei fod yn deall pam fod y mater yn “broblem” i Lywodraeth Prydain.

Ond mynnodd y dylen nhw ystyried y swm yng nghyd-destun yr ad-daliad blynyddol o £3bn y mae Prydain yn ei dderbyn gan Ewrop ers i Margaret Thatcher ei fynnu yn ôl yn 1984.

“Mae’r taliad hwn [o £1.7bn] yn dyddio’n ôl i 1995, felly fe allwch chi weithio allan faint mae’r Deyrnas Unedig wedi elwa o’r ad-daliadau,” meddai Stubb wrth y BBC.