Llun o glawr yr adroddiad
Fe fydd y byd yn wynebu newidiadau difrifol di-droi’n ôl os na fydd gwledydd yn gweithredu’n gyflym i dorri ar nwyon tŷ gwydr, meddai adroddiad gan banel rhyngwladol.

Ychydig o amser sydd ar ôl cyn y bydd hi’n rhy hwyr i ateb y newidiadau, meddai’r corff sydd wedi ei noddi gan y Cenhedloedd Unedig.

Mae angen tua haneru’r lefelau yn ystod y deugain mlynedd nesa’ a’u torri i ddim erbyn diwedd y ganrif, meddai’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (yr IPCC).

Fel arall, meddai’r fe allai tymheredd y ddaear godi o fwy na dwbl y lefel ddiogel.

‘Pobol syn gyfrifol’

Mae adroddiad yr IPCC yn dweud ei bod 95% yn sicr mai gweithgaredd pobol oedd yn gyfrifol am y rhan fwya’ o’r newidiadau ers yr 1950au.

Mae’r arbenigwyr hefyd yn mynnu na fydd torri ar lefelau nwyon yn cael effaith arwyddocaol ar dwf economaidd trwy’r byd.

Yn ôl yr adroddiad, sy’n tynnu ar 30,000 o bapurau gwleidyddol ac wedi’i ddilysu gan lywodraethau, mae newid hinsawdd eisoes yn cael effaith ar iechyd, amaeth a bywyd gwyllt ym mhob cyfandir.

Er hynny, meddai, mae’n bosib gweithredu i newid pethau, ond fod yr amser yn brin i gadw at y nod o gyfyngu’r cynnydd mewn tymheredd trwy’r byd i 2 radd Celsius neu lai.

‘Rhaid trawsnewid

“Rhaid i ni drawsnewid y ffordd yr ydym yn cael ynni,” meddai Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Prydain, Syr Mark Walport.

“Fe fydd hynny’n her fawr, ond fe fydd yr her i ddynoliaeth o beidio yn debyg o fod yn llawer mwy.”