Mae beth bynnag 50 o aelodau o lwyth – yn ddynion ac yn ferched diniwed – wedi cael eu leinio i fyny a’u saethu’n farw gan y grwp IS (y Wladwriaeth Islamaidd) yn Irac.

Fe ddigwyddodd y lladdfa ym mhentre’ Ras al-Maa yn nhalaith Anbar, i’r gogledd o ddinas Ramadi.

Mae IS wedi cyhuddo’r llwyth o ymosod arnyn nhw, wedi i’r bobol leol gael eu gyrru o’u cartrefi yn nhre’ Hit fis diwetha’.

Dyma’r diweddara’ mewn cyfres o laddfeydd gan Islamic State yn Irac ac yn Syria.