Mae beth bynnag naw aelod o lu diogelwch Afghanistan wedi’u lladd mewn ymosodiad gan hunanfomiwr yn nwyran talaith Logar.

Fe gafodd chwe heddwar a thri soldiwr eu lladd, meddai’r awdurdodau.

Fe gafodd 20 o bobol gyffredin hefyd eu hanafu yn y ffrwydriad a wnaeth ddifrod i dri chartref ac un mosg yn ardal Azra.

Does neb eto wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.