Mae cwmni newydd yn Llanelwy yn gobeithio datblygu egni o’r tonnau a’r llanw oddi ar arfordir gogledd Cymru.
Mae NWTE (North Wales Tidal Energy & Coastal Protection) yn gobeithio ymchwilio i’r posibiliadau o adeiladu lagwnau a fydd yn gallu creu egni ‘gwyrdd’ a chynaladwy.
Mewn datganiad, mae’r cwmni yn dweud y bydd cymunedau’n elwa o’r gwaith fydd yn cael ei wneud i’r cyfeiriad hwn – a’r bendith fwya’ fydd egni rhatach.