Mae 18 o wrthryfelwyr Islamaidd wedi cael eu lladd yn ystod ymosodiad ar dref yng ngorllewin Libya.

Mae un o arweinydd y glymblaid o wrthryfelwyr sy’n eu galw eu hunain ‘Gwawr Libya’ yn dweud i’r ymosodiad ddod gan grwp lleol dan arweinyddiaeth Gen Khalifa Hifter, yn nhref Kikla ddoe.

Fe gafodd 84 o bobol eu hanafu, meddai adroddiadau.

Fe gafodd tref Kikla ei hawlio gan y gwrthryfelwyr bythefnos yn ol, gan orfodi lluoedd y llwyth lleol i adael y lle a byw ar y cyrion. Mae bron iawn y cyfan o 30,000 o drigolion Kikla wedi ffoi.