Mae arweinydd y grwp eithafol mwyaf yn Nigeria yn gwadu cytuno i gadoediad gyda’r llywodraeth yno, ac mae’n dweud hefyd fod 200 o ferched ysgol a gafodd eu herwgipio yno’n gynharach eleni wedi cael eu rhoi i ddynion er mwyn eu troi at y grefydd Islam.

Mae sylwadau Abubakar Shekau, arweinydd Boko Haram, yn bwrw cysgod mawr dros obeithion y gallai’r merched gael eu rhyddhau. “Yn y rhyfel hwn,” meddai, “does yna ddim troi’n ol.”

Fe wnaeth ei sylwadau mewn fideo a gafodd ei ryddhau yn hwyr neithiwr (nos Wener) i asiantaeth newyddion The Associated Press.

Cyn hyn, roedd pennaeth y fyddin yn Nigeria wedi cyhoeddi fod mudiad Boko Haram wedi cytuno i amodau cadoediad a fyddai’n dod a’r rhyfel pum mlynedd sydd wedi lladd miloedd o bobol a gyrru miloedd eraill o’u cartrefi yng ngogledd-ddwyrain y wlad, i ben.

Ond mae ymosodiadau ac achosion o herwgipio yn parhau.

Mae’r modd yr herwgipiodd Boko Haram fwy na 200 o ferched ysgol ym mis Ebrill eleni, wedi achosi dychryn ar draws y byd.