Milwyr yn barod i adael Afghanistan (Llun: PA)
Mae’r milwyr Prydeinig ola’ wedi cael eu hedfan o Afghanistan ar ôl rhyfel 13 blynedd.
Fe ddaeth dwsinau o hofrenyddion ac awyrennau Hercules i’w cario o wersyll Camp Bastion yn nhalaith Helmand i’w cludo i dalaith Kandahar ar gyfer y daith adref.
Ddoe roedd baner Jac yr Undeb a baner yr Unol Daleithiau wedi eu gostwng yn y dalaith lle bu cymaint â 10,000 o filwyr Prydeinig yn ymladd ar un adeg.
Wrth iddyn nhw fynd, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon, eu bod yn mynd gyda’u pennau’n uchel ac yn gadael Afghanistan mewn cyflwr da.
Anghytuno
Ond doedd llawer o wleidyddion, gan gynnwys ASau Cymreig fel Elfyn Llwyd a Paul Flynn, ddim yn cytuni.
Ac fe ddywedodd y Dirprwy Brif Weinidog adeg y penderfyniad i fynd i Helmand nad oedd modd cyfiawnhau’r holl golli gwaed, gyda mwy na 453 o filwyr Prydeinig wedi marw yno,
“Rwy’n parchu’r miloedd o ddynion a merched dewr a aeth i Afghanistan ac Irac i achub bywydau ac adfer heddwch ond maen nhw’n ein dysgu bod pris mawr i’w dalu am fod yn blismon y byd ac nad yw’n cyfiawnhau’r holl golli bywydau,” meddai John Prescott.