Un o'r lluniau o Y Gwyll/Hinterland
Y gyfres dywyll, Y Gwyll, oedd y prif enillydd yng ngwobrau blynyddol teledu Bafta Cymru yng Nghaerdydd neithiwr.

Fe gafodd dair gwobr i gyd – Richard Stoddard am oleuo a ffotograffiaeth, Jeff Murphy am y sgriptio gorau a Marc Evans wobr y cyfarwyddwr ffuglen gorau.

Roedd yna fuddugoliaethau pwysig eraill i raglenni Cymraeg:

  • Y gyfres gomedi Dim Byd ar S4C a enillodd wobr y gyfres adloniant orau.
  • Rhian Blythe o Landwrog, ger Caernarfon, a gafodd wobr yr actores orau am actio Grug Mathews yn y gyfres Gwaith/Cartref.
  • Derbyniodd  un o raglenni cyfres O’r Galon y wobr am y rhaglen ddogfen unigol orau  – roedd Yr Hardys; Un dydd ar y Tro, yn trafod alcoholiaeth.

Roedd yna wobr i Gymro Cymraeg am raaglen Saesneg hefyd, wrth i Arwel Wyn Jones, sy’n wreiddiol o Landwrog ger Caernarfo, gael ei anrhydeddu am ddylunio cynhyrchiad Sherlock.

Gwobr arbennig

Y newyddiadurwr blaenllaw, Jeremy Bowen sy’n olygydd y Dwyrain Canol gyda’r BBC, a enillodd Wobr arbennig Sian Phillips am ddegawdau o ohebu ar faes y gad led-led y byd.

Roedd yna wynebau adnabyddus yn cymryd rhan yn y seremoni flynyddol, gyda’r gantores Katherine Jenkins yn perfformio cân o’i halbwm newydd a chyflwynydd y One Show, Alex Jones, ymhlith yr enwogion.