Heddlu ger y cofeb ryfel yn Ottawa lle cafodd milwr ei saethu
“Ni fydd Canada yn cael ei dychryn gan eithafwyr,” meddai’r Prif Weinidog Stephen Harper yn dilyn ail ymosodiad ar y wlad o fewn tri diwrnod.

Ddoe, roedd dyn arfog wedi saethu milwr yn farw ger cofeb ryfel yn Ottawa cyn mynd i’r Senedd a thanio ergydion. Cafodd y dyn Mwslimaidd ei saethu’n farw gan swyddog diogelwch.

Dywedodd y Prif Weinidog Stephen Harper mai’r digwyddiad yn Ottawa oedd yr ail ymosodiad brawychiaeth o fewn tri diwrnod.

“Ni fyddwn ni yn cael ein dychryn. Fe fydd Canada fyth yn cael ei dychryn,” meddai Stephen Harper mewn anerchiad yn gynnar bore ma.

Roedd y Prif Weinidog ac Aelodau Seneddol y wlad mewn cyfarfod wythnosol pan gafodd ergydion eu tanio yn adeilad y Senedd.

Roedd rhai wedi ffoi o’r adeilad tra bod eraill wedi cloi eu hunain mewn swyddfeydd.

Mae’r dyn arfog wedi cael ei adnabod fel Michael Zehaf-Bibeau, 32 oed. Yn ôl llefarydd ar ran y Llywodraeth roedd wedi troi at grefydd Islam yn ddiweddar.

Ddydd Llun, roedd ymosodiad ar ddau filwr o Ganada gan ddyn sy’n cael ei ddisgrifio fel “brawychwr sydd wedi cael ei ddylanwadu gan IS.”

Mae’r grŵp eithafol IS wedi galw am ddial ar Ganada a gwledydd eraill y Gorllewin sydd wedi ymuno mewn ymosodiadau awyr sy’n targedu’r grŵp yn Irac a Syria.

Yn Washington mae’r Arlywydd Barack Obama wedi condemnio’r ymosodiad gan ddweud bod yn “rhaid aros yn wyliadwrus.”