Mae BBC Cymru wedi dweud eu bod yn “siomedig”, wedi i ffigurau diweddaraf awdurdod RAJAR ddangos bod nifer gwrandawyr Radio Cymru wedi gostwng i’w lefel isaf erioed.

Mae cwymp sylweddol wedi bod yn ffigyrau gwrando Radio Wales hefyd, gyda 40,000 yn llai o bobol yn gwrando ar y sianel rhwng mis Gorffennaf a mis Medi eleni.

Yn ystod yr un cyfnod, 105,000 o bobol fu’n gwrando ar Radio Cymru yn wythnosol – sy’n gwymp o 42,000 o gymharu â ffigyrau’r tri mis blaenorol.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru bod y canlyniadau yn siomedig, a bydd rheolwyr yn astudio manylion y ffigurau gwrando er mwyn cryfhau’r gorsafoedd ar gyfer y dyfodol.

‘Aruthrol o siomedig’

“Rydym yn aruthrol o siomedig. Mae’n glec ar ôl i’r ffigyrau godi yn gymharol gyson am y misoedd diwethaf,” meddai Golygydd Radio Cymru, Betsan Powys ar raglen Dylan Jones bore ma.

“Roeddem ni’n disgwyl hyn dri mis yn ôl, pan wnaethom ni newid amserlen yr orsaf radio – ond gan i ni beidio gweld hynny, roeddem ni’n croesi bysedd ein bod ni wedi osgoi’r glec. Ond d’yn ni ddim.

“Mae’n arwydd o’r hyn oedd yn hir ddisgwyliedig a nawr mae’n rhaid i ni weithio’n galed i godi’r ffigyrau. Mi fyddwn ni’n edrych arnyn nhw’n ofalus.”

Newid i’r amserlen

Fe wnaeth Betsan Powys amddiffyn y penderfyniad i ailwampio’r orsaf a chyflwyno rhaglenni a darlledwyr newydd gan fynnu bod pobol yn gwerthfawrogi’r orsaf yn hwy erbyn hyn:

“Cafodd y newid ei gyflwyno oherwydd bod cyfnod mor hir wedi bod o ddirywio, roedd rhaid gwneud rhywbeth reit sylweddol o ran newid y rhaglen.

“Mae rhywbeth yn rhyfedd am y ffigyrau hefyd – o ran bod ffigyrau’r gwerthfawrogiad wedi codi a phobol yn gwrando’n hwy nag oedden nhw.

“Y gamp i ni nawr yw denu’r rheiny sydd ddim yn gwrando ar y radio yn Gymraeg a’u darbwyllo nhw bod rhywbeth yma iddyn nhw ei fwynhau.

“Byddai cael ail orsaf yn beth pwysig o ran dyfodol y radio Gymraeg, ac mae hynny’n gliriach nag erioed yn y ffigyrau yma.”

Ail ddarlledwr Cymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw eto am dreth newydd ar gwmnïau cyfryngau mawrion er mwyn sefydlu ail ddarlledwr Cymraeg.

Dywedodd Aled Powell, Cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith: “Mae ffigyrau gwrando yn mynd i fyny ac i lawr, ond rwy’n ffyddiog bydd Radio Cymru yn ffynnu dros y blynyddoedd i ddod o dan arweiniad Betsan Powys.

“Fodd bynnag, rydyn ni wedi bod yn galw am sefydlu darlledwr aml-blatfform newydd a fyddai’n rhyddhau S4C a Radio Cymru o’r ddyletswydd o fod yn bopeth i bawb. Er mwyn canfod yr adnoddau ar gyfer hynny yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, mae’n amser am ardoll newydd a fyddai’n trethu elw enfawr cwmnïau, fel Sky a Google, nad sy’n darparu gwasanaethau digonol yn Gymraeg.

“Byddai hynny’n sicrhau bod y darlledwr newydd yn gallu bod yn annibynnol o’r BBC, sy’n dominyddu darlledu Cymraeg ar hyn o bryd.”