Mae Tesco wedi cyhoeddi gostyngiad o 91.9% yn ei elw cyn treth i £112 miliwn am chwe mis cynta’r flwyddyn.

Mae cwmni archfarchnad fwyaf Prydain hefyd wedi datgelu bod ymchwiliad yn dangos ei fod wedi goramcangyfrif ei elw o £263 miliwn.

Mae cadeirydd y grŵp Syr Richard Broadbent wedi dweud ei fod yn paratoi i gamu o’i swydd.

Roedd gwerthiant wedi gostwng 4.6% yn y chwe mis hyd at fis Mawrth o ganlyniad i “gystadleuaeth gref” yn y farchnad.

Mae Tesco wedi ei chael yn anodd i gystadlu gyda phrisiau isel cwmnïau fel Aldi a Lidl.

Dywedodd prif weithredwr Tesco, Dave Lewis bod adolygiad llawn o’r busnes ar y gweill.

Mae cyfrannau’r cwmni wedi gostwng 7% ers y cyhoeddiad.