Ched Evans yn siarad yn y fideo YouTube, gyda'i gariad Natasha Massey wrth ei ochr
Mae Ched Evans wedi dweud ei fod yn gobeithio dychwelyd i chwarae pêl-droed proffesiynol unwaith eto.

Fe gyhoeddodd ddatganiad fideo ar ei wefan gan ddweud ei fod yn ymwybodol “na fyddai pawb yn cytuno”, yn ei ddatganiad cyhoeddus cyntaf ers cael ei ryddhau o’r carchar.

Unwaith eto fe ddywedodd Ched Evans ei fod yn edifar am y boen y mae wedi’i achosi i’w gariad Natasha Massey, ei deulu a’i ffrindiau, ond mynnodd unwaith eto y bydd yn parhau â’r frwydr i glirio’i enw.

Wnaeth o ddim ymddiheuro chwaith am yr hyn a wnaeth i’r ferch oedd wedi’i threisio.

Gallwch wylio’r fideo yma:

Dwy flynedd a hanner

Cafodd Evans ei ryddhau o’r carchar yr wythnos diwethaf ar ôl treulio dwy flynedd a hanner dan glo am dreisio dynes mewn gwesty yn Y Rhyl yn 2011.

Dywedodd y llys fod y ddynes, oedd yn 19 oed ar y pryd, yn rhy feddw i roi caniatad i Evans gael rhyw â hi, ond mae ef wastad wedi mynnu nad yw hynny’n wir ac wrthi yn y broses o apelio.

Yn ddiweddar fe arwyddodd dros 150,000 o bobl ddeiseb yn galw ar ei gyn-glwb Sheffield United, ble roedd Ched Evans yn ymosodwr disglair cyn iddo gael ei garcharu, i beidio â’i ailarwyddo yn dilyn y ddedfryd.

‘Gwers boenus’

Mae’r Cymro wedi dweud ei fod yn dal i obeithio y bydd yn cael y cyfle i ailafael yn ei yrfa.

“Mae’n fraint prin ac anhygoel i gael chwarae pêl-droed proffesiynol,” meddai Evans yn y datganiad ar wefan chedevans.com. “Fy ngobaith i yw gallu dychwelyd i chwarae pêl-droed.

“Os yw hynny’n bosib fe wnaf i hynny’n ostyngedig, ar ôl dysgu gwers boenus iawn. Hoffwn ail gyfle, er mod i’n gwybod na fyddai pawb yn cytuno.”

Fe fydd ymgyrchwyr yn erbyn treisio yn flin eto am nad yw’r datganiad fideo ddim yn cynnwys unrhyw ymddiheuriad i’r ferch a dreisiodd, dim ond ei fod yn difaru twyllo ar ei gariad drwy gysgu gyda’r ddynes.