Oscar Pistorius
Fe fydd yr athletwr Oscar Pistorius yn dychwelyd i’r llys yn Ne Affrica heddiw i gael ei ddedfrydu am ladd ei gariad, Reeva Steenkamp.

Mae disgwyl y bydd dadleuon cyfreithiol yn cael eu cyflwyno am rai dyddiau cyn i farnwr yr Uchel Lys yn Pretoria, Thokozile Masipa, gyhoeddi’r ddedfryd.

Cafwyd Pistorius yn ddieuog o lofruddio Reeva Steenkamp ond yn euog o gyhuddiad llai difrifol o ddynladdiad.
Fe allai Pistorius wynebu dedfryd o garchar wedi’i ohirio a dirwy, neu 15 mlynedd dan glo.

Mae’r athletwr Paralympaidd wedi cyfaddef iddo ladd Reeva Steenkamp, 29 oed, yn ei gartref ar ddydd San Ffolant y llynedd pan daniodd gwn bedair gwaith trwy ddrws yr ystafell ymolchi.

Ond mae’n dweud mai damwain drasig oedd y digwyddiad a’i fod yn credu bod lleidr yn ei gartref.

Mae’r barnwr wedi beirniadu Pistorius am ymateb yn rhy fyrbwyll pan saethodd ei gariad.

Cafodd Pistorius ei ryddhau ar fechnïaeth tan y gwrandawiad heddiw.