Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Wrecsam wedi tynnu blewyn o drwyn sawl aelod ar Twitter yn y dyddiau diwethaf, ac mae Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, yn dweud nad ydi o wedi medru cael gafael arni i drafod unrhyw fater ers misoedd bellach.

Rhannodd Sarah Atherton lythyr yr oedd hi wedi ei ysgrifennu ynghylch sefyllfa ceiswyr lloches sydd yn croesi o Ffrainc mewn badau bychan.

Yn ei llythyr ddoe (dydd Mawrth, Awst 18), roedd hi’n honni bod y drefn bresennol o dderbyn mewnfudwyr fel hyn yn anodd i’w wrthdroi ar hyn o bryd hyd nes y bydd y cyfnod trosglwyddo ym mhroses Brexit yn dod i ben ar Ragfyr 31.

“Yn anffodus, mae’r hyn rydyn ni yn ei weld ar raddfa anferth gyda’r cychod yn croesi’r Sianel, sef yn union hynny, torri amlwg ar ein cyfreithiau mewnfudo gan fewnfudwyr economaidd a gangiau masnachu pobl.”

Ymateb

Mae’r ymateb wedi bod yn eithaf chwyrn, gyda dros 2,000 yn ail-drydar ei llythyr yn gwrthwynebu’r honiadau.

Un wnaeth ymateb oedd Arfon Jones, a ddywedodd mewn neges ar wahân:

“Hi yw fy AS lleol a fi yw ei Chomisiynydd heddlu  a Throseddau ond nid yw hi’n ymgysylltu â’r sesiynau briffio rwy’n eu trefnu ac nid yw’n ymateb i ohebiaeth, ac mae hi bellach wedi fy rhwystro [ar Twitter] am ei herio. Yr AS mwyaf anymatebol erioed!”

Dywedodd Arfon Jones wrth golwg360 nad rhywbeth diweddar yw ei bod wedi ei rwystro rhag cysylltu â hi ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Ddim yn hir iawn ar ôl iddi gael ei hethol, ges i fy mlocio ganddi. Dwi wedi cael fy mlocio ers misoedd, a dwi ddim yn gwybod be’ nes i i’w hypsetio hi. Dwi’n meddwl mai rhyw fath o sialens ynglŷn a rhywbeth oedd o.

“Pan weles i ei bod hi wedi rhoi ei throed fawr mewn pethau ddoe, wel ymateb wnes i i’r BarristerSecrets, ymateb i beth oedd o wedi ddweud.

“Mae beth mae hi’n ddweud yn gwbl anghyfrifol, ac mae o’n anghywir yn ôl beth mae’r cyfreithwyr yma i gyd yn ei ddweud.

“Un peth rydw i yn ei wneud fel gwleidydd ydi dim ond ymateb ar bethau mae gen i wybodaeth arnyn nhw, dydw i ddim yn ‘rent a quote’. A fel yna mae’n edrych i fi mae (Sarah Atherton) yn gweithio, gwneud sylw ar bob peth dan haul a lot ohono fo does ganddi ddim gwybodaeth ogwbl amdano fo. Mae o’n gwbl anghyfrifol ac yn bwydo rhagfarn.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Sarah Atherton am ei hymateb.