Mae tîm achub dŵr cyflym o Bontardawe wedi bod yn ceisio achub dau fachgen yn eu harddegau o afon Tawe yn ardal Trebannws.
Yn dilyn y digwyddiad, mae Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub y De yn galw ar i bobol barchu’r dŵr.
Achubodd staff y gwasanaeth tân y ddau fachgen, a oedd yn hongian wrth gangen o’r afon.
“Mae’r digwyddiad hwn yn tynnu sylw at beryglon chwarae, padlo neu nofio ar safleoedd heb oruchwyliaeth, mewn mannau megis llynnoedd, cronfeydd dŵr ac afonydd chwareli,” meddai Karen Jones, rheolwr y grŵp a Phennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
“Mae cloddiau anwastad afon yn peri risg uchel o ddisgyn i’r dŵr agored.
“Gall cerrynt cryf ysgubo pobol i ffwrdd yn gyflym, tra bod dyfnder y dŵr yn gallu newid ac mae’n anrhagweladwy.
“Efallai na fydd gwrthrychau tanddwr yn weladwy a gallan nhw achosi anaf neu eich baglu chi yn y dŵr.
“Gallech hefyd ddioddef o sioc dŵr oer a gall hyn fod yn angheuol.
“Mae’n tynnu gwres o’r corff 32 o weithiau’n gyflymach nag aer oer ac yn achosi sioc oerfel – dal eich gwynt, crampio, ac anadlu dŵr, trawiad ar y galon, strôc a boddi cyflym.”
“Mae diffyg offer diogelwch ar y safleoedd hyn hefyd, sy’n cynyddu’r anhawster o achub y dŵr.
“Parchwch y dŵr os gwelwch yn dda.”