Ambiwlans yn cludo'r nyrs i ysbyty ym Madrid
Yn Sbaen, mae’r awdurdodau yn cadw gŵr nyrs mewn ystafell wedi’i hynysu ar ôl iddi hi gael ei heintio gyda Ebola.
Mae’r awdurdodau yn llunio rhestr o bobl eraill a allai fod wedi dod i gysylltiad â’r nyrs fel y gallen nhw gael eu goruchwylio, meddai’r cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus Mercedes Vinuesa wrth y Senedd.
Roedd y nyrs wedi bod yn helpu i ofalu am offeiriad o Sbaen fu farw o Ebola ar 25 Medi mewn ysbyty ym Madrid. Roedd yr offeiriad wedi hedfan yn ôl i Sbaen o Sierra Leone.
Cafodd y nyrs ei tharo’n wael a’i chludo i ysbyty ym Madrid ddoe. Dywedodd Mercedes Vinuesa bod nifer o driniaethau ar gael a’u bod nhw wedi dechrau trin y nyrs, ond nid oedd am fanylu ymhellach.
Mae’r nyrs mewn cyflwr sefydlog, yn ôl yr awdurdodau. Nid yw ei henw wedi cael ei ryddhau.
Mae’r digwyddiad wedi tynnu sylw at y peryglon mae gweithwyr iechyd yn eu hwynebu – nid yn unig yng Ngorllewin Affrica ond mewn ysbytai mwy modern yn Ewrop a’r Unol Daleithiau.
Mae 3,400 o bobl wedi marw o Ebola yng ngorllewin Affrica eleni, ac yn achosi pryder i wledydd yng ngweddill y byd.