Fe fydd y gymuned ryngwladol yn dod ynghyd yn Llundain heddiw ar gyfer cynhadledd i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r firws Ebola.

Ymhlith y rhai fydd yn y gynhadledd bydd yr Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond, yr Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, Justine Greening, ac Ernest Bai Koroma, arlywydd Sierra Leone.

Bydd y gwledydd yn trafod sut y gall y gymuned ryngwladol ymateb i’r argyfwng yng ngorllewin Affrica ac mae disgwyl iddyn nhw gyhoeddi rhagor o arian i fynd i’r afael a’r firws.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi rhoi addewid y bydd £20 miliwn ychwanegol yn cael ei roi i helpu gwasanaethau iechyd yn Sierra Leone, a hynny ar ben y £100 miliwn sydd wedi cael ei gyfrannu’n barod.

Mae arbenigwyr yn rhybuddio bod y firws wedi lledaenu yng Ngorllewin Affrica ar raddfa ddigynsail.
Mae disgwyl i 160 o staff y Gwasanaeth Iechyd deithio i Sierra Leone yn dilyn apêl am gymorth fis diwethaf.

Yn ôl adroddiadau mae 3,000 o bobl bellach wedi marw o’r firws yn Guinea, Liberia a Sierra Leone.

Adroddiad damniol

Mae Aelodau Seneddol wedi awgrymu y gallai toriadau i’r cymorth rhyngwladol i Sierra Leone a Liberia fod wedi cyfrannu at yr argyfwng diweddaraf.

Mewn adroddiad damniol mae’r pwyllgor seneddol ar ddatblygiad rhyngwladol yn dweud bod yr argyfwng yn dangos y “peryglon o anwybyddu un o’r gwledydd lleiaf datblygol yn y byd.”