Alice Gross
Mae disgwy i archwiliad post mortem ar gorff Alice Gross barhau heddiw.

Fe gadarnhaodd Scotland Yard mai corff y ferch ysgol 14 oed, a ddiflannodd ar 28 Awst, a gafodd ei ddarganfod yn Afon Brent yng ngorllewin Llundain nos Fawrth.

Fe ddechreuodd yr archwiliad post mortem ddoe ac mae disgwyl iddo barhau heddiw oherwydd “natur cymhleth” yr ymchwiliad, meddai’r heddlu.