Nick Griffin
Mae’r BNP (British National Party) wedi diarddel y cyn arweinydd Nick Griffin ar ôl honni ei fod wedi ceisio ansefydlogi’r blaid.
Dywedodd y blaid asgell dde bod ei aelodaeth wedi cael ei ddiddymu gan honni ei fod wedi bod yn poenydio aelodau o’r BNP ac wedi bygwth un ohonyn nhw.
Yn ôl y blaid, roedd Griffin, 55, sy’n byw yn Y Trallwng, wedi ysgrifennu adroddiad a oedd yn dweud “celwydd” ynglŷn â rhai o brif aelodau’r BNP a’i fod wedi rhoi sêl bendith i ddatgelu gwybodaeth am y blaid ar y we.
Roedd Nick Griffin wedi rhoi’r gorau i fod yn arweinydd y BNP, ar ôl cyfnod o 15 mlynedd, ym mis Gorffennaf.
Daeth y penderfyniad ar ôl iddo golli ei sedd yn Senedd Ewrop yn yr etholiadau ym mis Mai.
Mae Nick Griffin wedi ymateb yn chwyrn i’r penderfyniad ar Twitter gan ddweud ei fod wedi cael ei ddiarddel “heb dreial.”
Dywedodd Cadeirydd y BNP Adam Walker bod y penderfyniad wedi bod yn un “anodd” ond eu bod wedi “ystyried yn ddwys” cyn gwneud hynny.