Huw Vaughan Thomas
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi dweud bod angen i gynghorau tref a chymuned wneud mwy i gadw trefn ar eu cyfrifon ariannol.

Dywed yr adroddiad bod cynghorau wedi gwella o ran cyflwyno’u cyfrifon yn brydlon, ond bod angen i’r safon godi cyn i archwiliad gael ei gynnal.

Mae’r adroddiad hefyd yn mynd i’r afael â chyfrifon tri chyngor – Banwy, St Florence a Chydweli, gan gynnig argymhellion statudol i’r cynghorau hynny.

Dywed yr adroddiad bod peth cynnydd wedi bod ers yr arolwg blaenorol y llynedd, ond bod 60% o’r adroddiadau a gafodd eu cyflwyno’n anorffenedig neu’n ddiffygiol.

Bydd mesurau newydd yn cael eu cyflwyno’r flwyddyn nesaf er mwyn i gynghorau wella’u dulliau o gadw trefn ar eu cyfrifon.

‘Gwendidau systemig’

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas: “Tra ’mod i’n hapus i weld gwelliant ers y llynedd, mae’n siomedig bod cryn sgôp o hyd i gynghorau tref a chymuned i wella’u rheolaeth ariannol a’u trefniadau llywodraethu.

“Rwy’n eu hannog nhw i ddarllen cynnwys yr adroddiad hwn yn ofalus er mwyn mynd i’r afael â gwendidau systemig sy’n dal yn amlwg ac sydd yn aml yn arwain at gymwysterau archwilio y gellir eu hosgoi.”

‘Siomedig’ – Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn siomedig fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi adrodd bod ychydig iawn o gynnydd wedi bod o safbwynt gwella rheolaeth ariannol ymhlith Cynghorau Tref a Chymuned o’i gymharu â’r llynedd.

“Mae’r cyrff hyn yn gyfrifol am oddeutu £40 miliwn o wariant, a’r rhan fwyaf yn dod o arian y dreth cyngor. Mae systemau priodol o reoli arian a llywodraethu yn elfennol i weithgarwch effeithiol ac effeithlon yr haen yma o lywodraeth.

“Mae’r cyrff hyn yn gyfrifol am sicrhau bod ganddyn nhw reoliadau cywir yn eu lle a bod arweiniad cynhwysfawr ar gael i’w cefnogi nhw i gwblhau eu dyletswyddau yn y maes hwn.”

‘Pardduo’r sector cyfan’

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Prif Weithredwr Un Llais Cymru, Lyn Cadwallader: “Tan fy mod i wedi cael cyfle i ystyried cynnwys y ddogfen, alla i ddim gwneud sylw.

“Yn naturiol, roeddem yn siomedig gyda’r adroddiad y llynedd gan ei fod yn ymddangos fel pe bai’n pardduo’r sector cyfan pan fo’r trafferthion yn ymddangos fel pe baen nhw ond yn berthnasol i rai o’r cynghorau lleiaf ar y cyfan.

“Rydym yn sicr yn cydnabod yr adroddiad ac fe fyddwn yn gweithio gyda Swyddfa Archwilio Cymru a’r sector i godi safonau.”