Yr M4
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadau dulliau “Cymru gyfan” wrth ddod o hyd i ffyrdd o wella’r system drafnidiaeth yng Nghasnewydd.

Penderfynodd Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen gydag opsiwn gwerth £1 biliwn ar ddiwrnod olaf tymor yr haf, ond mae Plaid Cymru’n galw arnyn nhw i ymchwilio i opsiynau rhatach a fyddai’n gallu cael eu cyflwyno’n gynt.

Maen nhw’n dadlau y gallai Llywodraeth Cymru wario’r arian sy’n cael ei arbed ar wella cysylltiadau trafnidiaeth ledled Cymru.

Dywed Plaid Cymru eu bod nhw wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y byddai penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ar ôl etholiadau nesa’r Cynulliad.

Cyn gwneud penderfyniad, fe fydd astudiaeth o effeithiau amgylcheddol yn cael ei chynnal, ac ymgynghoriad cyhoeddus hefyd o bosib.

Mae grwpiau amgylcheddol eisoes wedi herio Llywodraeth Cymru’n gyfreithiol ynghylch eu “Llwybr Du”, yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio ar hyn o bryd.

Maen nhw’n dadlau bod y bwriad i gyflwyno’r llwybr hwnnw’n anghyfreithlon.

‘Gwerth am arian’

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd economi, menter a thrafnidiaeth Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: “Mae tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd yn broblem y mae angen ei datrys, ac mae Plaid Cymru am ei gweld yn cael ei datrys mewn ffordd sy’n fforddiadwy, yn gynaliadwy ac sy’n cynnig gwerth am arian.

“Bydd yr opsiwn biliwn o bunnoedd mae Llywodraeth Cymru wedi’i mabwysiadu’n costio mwy na dwywaith y pris angenrheidiol, ac ni ellir ei gyflwyno’n gyflym nac mewn ffordd benderfynol gan ei fod mor ddadleuol.”

Ychwanegodd mai £380 miliwn oedd pris yr opsiwn yr oedd ei blaid yn ei ffafrio, ac mae’n dadlau y byddai’r opsiwn hwnnw’n rhyddhau £600 miliwn ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth eraill ledled Cymru.

“Yn y gyllideb ddoe, gwnaeth Llywodraeth Cymru sôn dipyn am yr addewid i wario £10 miliwn ar brosiect trafnidiaeth dienw yng ngogledd Cymru.

“Byddai cynlluniau Plaid Cymru’n rhyddhau miliynau o bunnoedd y gellir eu buddsoddi mewn prosiectau ledled Cymru.”

Llwybr Glas

Yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon, mae’r Athro Stuart Cole yn cynnig opsiwn amgen, sef Llwybr Glas.

Dywed yr Athro Cole o Brifysgol De Cymru y byddai’r Llwybr Glas yn cynnwys pedair lôn yn lle chwech fel sydd yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

O dan yr opsiwn hwn, meddai, fe fyddai’n “gwella’r heolydd sy’n bodoli gan ddefnyddio’r A48 i’r de o Gasnewydd o Gyffordd 28 i Queensway Meadows ar hyd Heol y Gwaith Dur i Gyffordd 23a”.

Dywed y byddai’n rhaid prynu tir newydd er mwyn cyflawni’r gwaith hwn ond y byddai’n “osgoi cyffordd newydd enfawr i’r gogledd o Fagwyr”.

Dywed y byddai cost ychwanegol cynllun presennol Llywodraeth Cymru’n cael “effaith negyddol ar brosiectau eraill ar yr A55, yr A465, yr A40 i Sir Benfro…” a nifer o ffyrdd osgoi eraill yng Nghymru.

Ychwanegodd: “Mae pethau wedi newid yn y byd traffig – mwy o bobol ar y trenau, dynion ifanc yn gyrru llawer yn llai, ceir cwmnïau wedi lleihau achos y rheolau treth newydd a chost petrol a disel wedi mynd mor uchel…

“Os bydd y sefyllfa yma yn parhau bydd dim rhaid cael traffordd o gwmpas Casnewydd; fydd y Llwybr Glas yn ddigon a gyda thrydanu a’r Metro yn fwy na digon.”

Mae’n tybio y byddai modd cyflwyno’r Llwybr Glas erbyn 2017.

Gellir darllen rhagor am gynllun amgen Stuart Cole yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg.