Hannah Witheridge (PA)
Mae heddlu yng Ngwald Thai wedi methu dod o hyd i gysylltiad ar ôl gwneud profion DNA ar grŵp o weithwyr o Burma oedd yn cael eu holi am lofruddiaeth dyn a dynes ifanc o Loegr.
Cafodd y gweithwyr eu harestio ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i waed ar eu dillad.
Daethpwyd o hyd i gyrff David Miller, 24, o Jersey, a Hannah Witheridge, 23, o Norfolk, eu darganfod ar draeth yn Koh Tao gydag anafiadau difrifol i’w pennau ddydd Llun.
Roedd yr heddlu hefyd yn holi dau frawd o Brydain mewn cysylltiad â’r llofruddiaeth, ond nid oedd eu DNA nhw yn cyd-fynd a’r DNA ar gyrff David Miller a Hannah Witheridge chwaith.
Mae Prif Weinidog Gwlad Thai, Prayuth Chan-ocha, wedi rhybuddio twristiaid i beidio â meddwl fod y wald yn ddiogel.
Ond mae wedi creu dadlau ar ôl cael ei gyhuddo o awgrymu bod merched ar fai am wisgo rhy ychydig.