Fe fydd cael gwared ar yr angen i dangos disg treth ar geir yn debyg o gostio tua £167 miliwn i Lywodraeth Prydain, meddai cymdeithas foduro’r RAC.

“Nonsens llwyr” yw hynny, meddai llefarydd ar ran asiantaeth drwyddedu, y DVLA, yn Abertawe.

Ond mae arolwg gan yr RAC hefyd yn dangos nad yw llawer o bobol yn gwybod am y newid a mwy fyth heb wybod pryd y mae’n digwydd.

Yn ôl y Gymdeithas, y peryg yw y bydd pobol yn ceisio osgoi talu’r dreth, yn union fel y maen nhw’n ceisio osgoi yswiriant.

O’r mis nesa’ ymlaen, fydd dim rhaid dangos disg treth ar gar ond fe fydd yn parhau’n angenrheidiol i dalu’r dreth.

‘Dim cynnydd’

Yn ôl y llefarydd ar ran y DVLA, fe fyddan nhw’n gallu dal pobol sy’n osgoi’r dreth trwy edrych ar eu cofnodion electronig.

Dyna sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, meddai, gan wadu y byddai cynnydd yn y rhai sy’n osgoi talu.

Mae yna systemau adnabod ceir hefyd wedi eu gosod mewn llawer o ardaloedd.

Y disgwyl yw y bydd dileu’r disg yn arbed £10 miliwn i’r Llywodraeth, ond mae’r RAC yn mynnu y gallai’r golled fod yn fwy.

Anwybodaeth

Ac, yn ôl arolwg a wnaethon nhw ymhlith 2000 o fodurwyr, doedd 36% ddim yn gwybod am y newid a 47% ddim yn gwybod ei fod yn digwydd y mis nesa’.

Ym mis Hydref, fe fydd yr arfer o drosglwyddo’r dreth wrth werthu car hefyd yn dod i ben – fe fydd rhaid i brynwr dalu treth o’r newydd.