Leanne Wood - eisiau i Gymru ymateb
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi dweud ei bod hi’n gobeithio am “ddemocratiaeth newydd” yn sgil refferendwm annibyniaeth yr Alban.
Beth bynnag fydd y canlyniad yfory, mae Leanne Wood yn dweud bod democratiaeth newydd eisoes wedi cael ei chreu yn yr Alban wrth i fwy o bobol nag erioed gymryd rhan.
“Beth bynnag fydd y canlyniad, mae un peth yn sicr,” meddai yn y Cynulliad. “Mae democratiaeth newydd wedi ymddangos.
“Pwy fuasai wedi meddwl, yn dilyn trachwant y bancwyr, yn dilyn sgandal treuliau’r ASau, yn dilyn dirwasgiad niweidiol, y byddai pobol mewn un rhan o’r ynysoedd hyn, o leiaf, yn ymrwymo i broses wleidyddol na chafwyd ei thebyg o’r blaen.
Optimistiaeth
“Rydyn ni hefyd am weld yr ymdeimlad o obaith ac o optimistiaeth sy’n amlwg iawn yno,” meddai Leanne Wood.
Galwodd am roi’r cyfle i bobol Cymru benderfynu eu dyfodol eu hunain, gan ddweud y byddai’n “brofiad gwych”.
Ond dywedodd fod economi gref yn allweddol i hynny ddigwydd.