Mae arolwg gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus yn honni bod strydoedd Cymru’n mynd yn lanach o hyd.

Ond maen nhw’n rhybuddio bod peth gwaith i’w wneud o hyd i lanhau rhai o’r strydoedd gwaethaf.

  • Yn ôl yr arolwg, mae 96.5% o strydoedd Cymru wedi cyrraedd safonau derbyniol, er gwaetha’ toriadau yng nghyllidebau cynghorau lleol. Mae hynny’n gynnydd o 1.5% ar y flwyddyn gynt.
  • Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod gostyngiad wedi bod yn nifer yr achosion o graffiti a fandaliaeth.
  • Ar hyn o bryd, sigaréts yw’r math mwyaf cyffredin o sbwriel ar strydoedd Cymru ond fe fu gwelliant yn y sefyllfa ers 2007, pan gafodd yr adroddiad cyntaf ei gyhoeddi.

Problemau

Er gwaetha’r gwelliannau, mae’r adroddiad yn nodi bod sbwriel o fwytai bwyd cyflym parhau’n broblem fawr ar y strydoedd.

Mae’r adroddiad yn hefyd yn dweud bod olion gwm cnoi ar bron 80% o strydoedd a bod problem baw ci yn is na’r llynedd ond yn uwch na’r cyfartaledd tros y blynyddoedd.

Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi yn ystod ymgyrch flynyddol Wythnos Cadwch Gymru’n Daclus rhwng Medi 15-21, lle mae gwirfoddolwyr yn helpu i gadw’r strydoedd yn lân trwy godi sbwriel gyda chymorth Swyddogion Prosiect yr elusen.

Fe fydd diwrnod o godi ymwybyddiaeth o’r broblem yn cael ei gynnal ar Hydref 2.

Medden nhw …

Dywedodd Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus, Lesley Jones: “Mae’n galonogol fod ein strydoedd yn mynd yn fwy glân ac yn galonogol iawn i weld yr holl ffyrdd dyfeisgar mae’r awdurdodau lleol yn mynd ati i fynd i’r afael â’r problemau hyn sydd mor bwysig i bobol.”

Wrth ymateb i ganlyniadau’r arolwg, dywedodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant: “Mae’n sicr yn galonogol i weld cynnydd yn nifer y strydoedd heb sbwriel a gostyngiad yn nifer y strydoedd sy’n llawn sbwriel yn yr adroddiad hwn.