(Llun: PA)
Merched, pleidleiswyr Llafur a mewnfudwyr yw’r tri grŵp targed i ymgyrchwyr Ie yn niwrnod y bleidlais yn yr Alban.
Mae dadansoddiad o un o’r polau piniwn diweddara’n dangos mai dyna’r tri grŵp amlwg lle mae angen i Alex Salmond a’i ymgyrch ennill tir.
Fe fyddai dynion yr Alban yn pleidleisio’n glir o blaid annibyniaeth, yn ôl yr arolwg barn ola’ gan gwmni YouGov, sy’n awgrymu yn gyffredinol bod ‘Na’ bedwar pwynt ar y blaen – o 52 i 48.
Dyna’r ffigurau hefyd mewn pôl gan Panelbase ond mae Ipsos Mori’n awgrymu bod y bwlch yn llai fyth ar 51-49 i’r ochr Na.
Cefnogaeth yn llithro
Pôl You Gov a daniodd sylw Prydeinig yn yr ymgyrch bythefnos yn ôl wrth ddweud bod ‘Ie’ ar y blaen o 52 i 48 – y cynta’ i wneud hynny.
Ers hynny, mae’n ymddangos bod y gefnogaeth i ‘Ie’ wedi llithro’n ôl rhwfaint ymhlith cefnogwyr Llafur a merched.
Ac mae mewnfudwyr i’r Alban yn debyg o bleidleisio’n gry’ – o fwy na 3-1 – yn erbyn annibyniaeth, medden nhw.
Y pôl gan YouGov yw’r mwya’ yn yr ymgyrch, a nhwthau’n holi mwy na 3,200 o bobol oedd wedi ymateb i arolygon o’r blaen yn ystod cynnydd mawr yr Ymgyrch Ie, o ganol mis Awst ymlaen.
Dyma’r manylion – yn ôl YouGov
- Mae dynion yr Alban o blaid annibyniaeth o 54 i 46.
- Mae merched yr Alban yn erbyn annibyniaeth o 57 i 43.
- Fe fyddai Albanwyr brodorol o blaid annibyniaeth, ond o fwyafrif bach iawn, iawn – mae’n 50-50.
- Mae mewnfudwyr 78-22 yn erbyn – mae tua 9% o’r etholwyr wedi dod o’r tu allan i’r wlad.
- Mae symudiad dwy ffordd ymhlith pleidleiswyr Llafur yn allweddol, gyda’r gefnogaeth i annibyniaeth yn mynd o 18% ddechrau Awst i 35% yn anterth llwyddiant yr ymgyrch Ie. Mae bellach i lawr i 30%.
Mae Peter Kellner, Cyfarwyddwr YouGov, yn rhybuddio bod mwyafrif yr arolwg yn gyffredinol yn is ffiniau cywirdeb polau piniwn.