Mae merch naw oed wedi saethu’n farw hyfforddwr gynnau yn Arizona drwy ddamwain wrth iddo ddangos iddi sut i ddefnyddio gwn Uzi, meddai’r awdurdodau yno.
Bu farw Charles Vacca, 39 oed, ddydd Llun yn fuan ar ôl iddo gael ei gludo mewn hofrennydd i Ganolfan Feddygol yn Las Vegas.
Roedd Charles Vacca yn sefyll wrth ymyl y ferch yn y maes saethu, Last Stop, pan daniodd y gwn Uzi drwy ddamwain.
Yn ôl yr awdurdodau roedd y ferch wedi mynd i’r maes saethu gyda’i rheini. Nid yw ei henw wedi cael ei gyhoeddi.
Dywedodd Ronald Scott, arbenigwr ar ddiogelwch gynnau yn Phoenix, bod gan y rhan fwyaf o feysydd saethu gyfyngiad ar oedran plant a rheolau diogelwch llym wrth ddysgu plant sut i danio gwn.
Ychwanegodd bod yr hyfforddwyr fel arfer yn cadw eu dwylo ar y gynnau pan oedd plant yn eu tanio.
“Fedrwch chi ddim rhoi Uzi i blentyn naw oed a disgwyl iddyn nhw ei reoli,” meddai Ronald Scott.