Y firws Ebola
Cafodd nyrs o Brydain a ddaliodd yr haint marwol Ebola yn Sierra Leone ei gludo’n ôl i Lundain gan yr RAF neithiwr.
Mae William Pooley, 29 oed, bellach yn cael ei drin mewn ysbyty arbenigol yn Hampstead.
Er bod cyfraddau marwolaeth Ebola hyd at 90%, dywed Adran Iechyd Lloegr nad yw’n “ddifrifol o wael” a bod y risg i’r haint ledaenu ym Mhrydain yn “isel iawn”.
Barn gwyddonwyr yw bod ganddo obaith da o wella gan i’r haint gael ei ddal yn ddigon cynnar.
Dywed Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) bod 2,615 o bobl wedi cael eu heintio â’r firws marwol, a bod tua 1,427 wedi marw ers i’r achosion presennol gael eu darganfod yn Guinea ym mis Mawrth. Ers hynny, mae’r haint wedi lledaenu i Sierra Leone, Liberia a Nigeria.
Mae’r Swyddfa Dramor yn pwyso ar i bobl ystyried yn ddwys cyn teithio i’r tair gwlad hyn.