Mae lluoedd diogelwch Irac wedi methu yn eu hymdrechion i adennill Tikrit, tref enedigol yr unben Saddam Hussein, yn dilyn adwaith ffyrnig gan ymladdwyr o’r wladwriaeth Islamaidd (IS).
Wedi’u hysgogi yn dilyn adennill yr argae strategol Mosul oddi wrth y wladwriaeth Islamaidd ddydd Llun, fe lansiodd y lluoedd Iracaidd ei hymgyrch ddiweddaraf.
Cawsant eu cefnogi gan wrthryfelwyr Shi’ite i gyfeiriad dinas Tikrit- cadarnle’r lleiafrif Sunni, sydd i’r gogledd o Baghdad.
Yn y cyfamser, cyhoeddodd Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig yng Ngenefa ei bod yn yn gyrru cymorth angenrheidiol i dros hanner mliwn o bobl wedi’u dadleoli o ganlyniad i’r ymladd yng ngogledd Irac.