Mae Israel a Hamas wedi cytuno i ymestyn y cadoediad dros-dro am bum niwrnod, gan roi cyfle i’r ddwy ochr eistedd i lawr a thrafod sut y gellir dod a’r rhyfel yn Gaza i ben.
Ond, hyd yn oed wedi i’r estyniad gael ei gyhoeddi am hanner nos neithiwr, fe fu trais yn yr ardal. Fe daniodd gwrthryfelwyr Palesteinaidd bump o rocedi at dargedau Israelaidd yn Llain Gaza.
Fe ddaeth y cyhoeddiad am y cadoediad gan Weinyddiaeth Dramor yr Aifft a phennaeth y tim Palesteinaidd sy’n trafod y sefyllfa.
Ddaeth yna ddim ymateb yn syth bin gan Brif Weinidg Israel.