Pab Ffransis
Ffransis yw’r Pab cyntaf mewn chwarter canrif i ymweld a De Corea, wrth iddo gyrraedd y brifddinas, Seoul heddiw.
Mae’n cario gydag efo neges o heddwch a chymod i ardal o’r byd sy’n llawn tensiwn.
Rhyw awr cyn i’r Pab gyrraedd heddiw, fe wnaeth Gogledd Corea ei phwynt hefyd, trwy danio tri thaflegryn… a thanio dau arall wedi iddo gyrraedd.
Er hyn, mae Gogledd Corea wedi gwrthod y gwahoddiad i anfon cynrychiolydd i gwrdd a’r Pab Ffransis yn Seoul. Ond mae Ffransis yn gobeithio y bydd ei neges yn cael chlywed ar ddwy ochr y ffin, yn y ddwy wlad.