Fe fydd miloedd o ddisgyblion Cymru’n derbyn eu canlyniadau Safon Uwch heddiw, gyda’r dyfalu am welliant yn dod i ben.

Mae nifer y disgyblion sydd wedi ennill y graddau uchaf wedi gostwng yn raddol yn ystod y pedair blynedd diwethaf.

Daeth cadarnhad gan holl brifysgolion Cymru eu bod nhw’n derbyn myfyrwyr trwy’r system glirio unwaith eto eleni.

Dim ond 22.9% o ddisgyblion Cymru enillodd raddau A neu A* y llynedd, sy’n llai na’r cyfartaledd yng ngweddill gwledydd Prydain.

Bydd disgyblion hefyd yn derbyn canlyniadau’r Fagloriaeth Gymreig heddiw.