Lauren Bacall yn 1972
Bu farw’r actores Hollywood Lauren Bacall yn 89 oed neithiwr.

Roedd yr actores fyd-enwog yn briod â’r actor Humphrey Bogart, ac yn fwyaf enwog am ei rhan yn y ffilm ‘To Have and Have Not’.

Gyda’i gilydd roedd Bacall a Bogart yn un o’r cyplau enwocaf yn hanes Hollywood.

Symudodd Bacall i Hollywood yn 19 oed ac mi ddaeth i amlygrwydd bron yn syth.

Yn ystod ei gyrfa, derbyniodd Bacall ddwy wobr Tony ac Oscar er anrhydedd.

Ymddangosodd Bacall a Bogart mewn ffilmiau gyda’i gilydd lawer iawn o weithiau ac roedden nhw’n rhan o grŵp o enwogion yn Efrog Newydd o’r enw’r Holmby Hills Rat Pack, oedd yn cynnwys y canwr Frank Sinatra.

Derbyniodd Bacall enwebiad am Oscar yn hwyr yn ei gyrfa yn 1996, a hynny am ei rhan yn y ffilm ‘The Mirror Has Two Faces’, pan chwaraeodd ran mam Barbra Streisand.

Cafodd Bacall ei geni’n Betty Joan Perske yn ardal y Bronx, Efrog Newydd yn 1924, a chafodd ei magu gan ei mam Rwmanaidd wedi i’w rhieni wahanu.

Yn ogystal â bod yn actores, roedd Bacall hefyd yn fodel mewn amryw gylchgronau a thrwy hynny y daeth i gyswllt â’r byd ffilm.

Pan gyfarfu Bacall a Bogart, roedd Bogart yn dal yn briod â’r actores Mayo Methot, ond cafodd y ddau ysgariad yn ddiweddarach, ac fe briododd Bacall a Bogart yn 1945.

Roedd y ddau’n briod tan farwolaeth Bogart yn 1957.

Wedi’i farwolaeth, dyweddïodd Bacall â Frank Sinatra ond daeth eu perthynas i ben yn ddiweddarach.

Ymadawodd Bacall â Hollywood yn 1958 ac mi ddaeth yn actores yn Lloegr.

Priododd yr actor Jason Robards yn 1961, ond daeth ysgariad arall yn 1969.

Daeth llwyddiant i ran Bacall yn 1970 a 1981 wrth iddi ennill gwobrau Tony.

Yn ddiweddarach yn ei gyrfa, ymddangosodd yn y ffilmiau ‘Murder on the Orient Express’, ‘The Shootist’ a ‘Ready to Wear’.

Chwaraeodd ran mam Nicole Kidman yn y ffilm ‘Birth’ yn 2004 ac mi ymddangosodd fel hi ei hun yn y gyfres deledu boblogaidd ‘The Sopranos’.