Robin Williams
Mae plant yr actor Robin Williams wedi rhoi teyrnged i’w tad ar ôl iddo gael ei ddarganfod yn crogi yn ei gartref yng Nghaliffornia.
Cafodd yr actor ei ddarganfod yn ei ystafell wely gan ei gynorthwyydd personol fore dydd Llun ar ôl iddo fethu ag ateb y drws.
Cafodd Williams, 63, ei weld am y tro olaf gan ei wraig, Susan Schneider, tua 10.30yh nos Sul cyn iddi fynd i’w gwely, meddai’r crwner.
Fe adawodd hi’r tŷ am 10.30yb ddydd Llun gan gredu ei fod yn dal yn ei wely.
Ond cafodd y tad i dri ei ddarganfod yn ei ystafell wely am 11.45yb a chafodd y gwasanaethau brys eu galw. Nid oedd yn anadlu a bu farw am 12.02pm.
Dywedodd y crwner eu bod yn credu ei fod wedi lladd ei hun. Roedd yr actor wedi bod yn dioddef o iselder difrifol.
Mewn datganiad dywedodd ei ferch Zelda Williams, 25, bod ei thad yn ddyn “clên, hael ac addfwyn” a bod y byd yn le “ychydig tywyllach, llai lliwgar a llai o chwerthin” yn ei absenoldeb.
Roedd ganddo ddau fab, Zak Williams, 31 a Cody Williams, 23.
Fe ymddangosodd Williams mewn mwy na 100 o ffilmiau gan gynnwys Good Morning, Vietnam, Dead Poets Society, Good Will Hunting, a’r comedi Mrs Doubtfire.