Mae Prydain yn anfon tîm o arbenigwyr meddygol y Gwasanaeth Iechyd (GIG) i helpu pobl sydd wedi’u hanafu yn ystod yr ymladd yn Gaza.

Yn ol Downing Street fe fydd staff yn hedfan i’r rhanbarth o fewn y 48 awr nesaf.

Daeth y cyhoeddiad ar ôl i’r ymladd ail-ddechrau rhwng lluoedd Israel a Hamas yn dilyn cadoediad a oedd wedi bod mewn grym ers tridiau.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron: “Mae’r gwrthdaro yn Gaza wedi arwain at golli nifer fawr o fywydau. Mae’r DU wedi bod ar y blaen yn yr ymdrechion dyngarol i helpu’r rhai sydd wedi’u heffeithio ac mae’n briodol ein bod yn gweld beth arall y gallwn ni ei wneud.

“Fe fydd y tîm arbenigol yma yn chwarae rhan hanfodol yn y rôl o helpu cannoedd sydd wedi’u heffeithio gan y gwrthdaro.”

Bydd y tîm yn cynnwys doctoriaid, nyrsys, llawfeddygon, parafeddygon, ac anesthetyddion.

Fe fyddan nhw’n gweithio yn Ysbyty Al Mokassed yn nwyrain Jerwsalem i ddechrau a’r gobaith yw eu symud i Gaza unwaith fydd mynediad yn bosib.

Maen nhw’n cael eu hariannu gan yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol.