Tŵr Meridian, Abertawe Llun: Gwefan Tŵr Meiridian
Mae dyn wedi cael ei arestio yn dilyn cyrch arfog yn Nhŵr Meridian ym Marina Abertawe bnawn ddoe.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r adeilad uchaf yng Nghymru am 4 bnawn dydd Gwener ar ôl i ddyn gael ei gadw’n wystl ar y 28ain llawr gan ddyn arfog.

Cafodd unedau arbennig eu hanfon i’r safle, gan gynnwys hofrennydd yr heddlu a heddlu arfog.

Roedd ffyrdd wedi eu cau o amgylch y twr a’r cyhoedd wedi’u cynghori i gadw draw o’r ardal.

Ar ôl tua dwy awr cafodd Taser ei ddefnyddio i dawelu’r dyn arfog a chafodd ei arestio gan heddlu arfog.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw wedi dod o hyd i ddryll ar y safle a’u bod yn cadw dyn lleol yn y ddalfa yng ngorsaf yr heddlu yn Abertawe.

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu’n ddifrifol yn y digwyddiad.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Andy Kingdom: “Yn ffodus, daeth y digwyddiad difrifol iawn yma i ben yn heddychlon ac ni chafodd unrhyw un eu hanafu.

“Hoffwn ddiolch i’r swyddogion am eu dewrder a’u proffesiynoldeb yn ystod sefyllfa bryderus iawn.

“Yn ogystal hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am eu cydweithrediad yn ystod y digwyddiad yma.”

Cafodd y tŵr, sy’n 300 troedfedd o uchder, ei gwblhau yn 2009. Bydd y tŵr yn ail-agor am hanner dydd heddiw.