Barack Obama
Mae America wedi datganei bod wedi lansio ymosodiadau o’r awyr ar filwyr Islamaidd yn Irac.

Dywedodd y Pentagon fod dwy awyren wedi gollwng bomiau ar filwyr o’r grŵp IS, Isis gynt, oedd yn cludo arfau y tu allan i Irbil.

Nid yw’n hi’n glir faint o filwyr gafodd eu lladd yn yr ymosodiad.

Mewn cyfweliad teledu ddoe fe wnaeth Arlywydd America, Barak Obama, fygwth gyrru milwyr Americanaidd i Irac gan ddweud: “Mae America yn dod i helpu.”

Ychwanegodd: “Rydym hefyd yn trafod gyda gwledydd eraill – a’r Cenhedloedd Unidig – sydd wedi galw am weithredu er mwyn ceisio lleddfu’r argyfwng.”