Y parti ar y Maes
Mae’r cynghorydd sir Plaid Cymru Cefin Campbell wedi dweud ei fod am weld pob ysgol gynradd Saesneg ei hiaith yn diflannu o Sir Gaerfyrddin yn dilyn gweithredu argymhellion i ddiogelu’r Gymraeg yno.

Y prynhawn yma fe gynhaliodd Cymdeithas yr Iaith barti ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli i ganmol Cyngor Sir Gâr am gyhoeddi amserlen ar gyfer gweithredu strategaeth iaith newydd.

Ond mae’r ymgyrchwyr hefyd yn rhybuddio eu bod yn cadw “llygad barcud” ar y cyngor i wneud yn siŵr eu bod yn cadw at eu haddewid a bod peryg i rai swyddogion geisio atal y datblygiad.

Roedd siaradwyr y parti yn cynnwys y Cynghorwyr Cefin Campbell o Blaid Cymru a Callum Higgins o’r Blaid Lafur, yr actorion Andrew Teilo a Gwyn Elfyn, y ddarlledwraig Iola Wyn a chyn-arweinydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, Mared Ifan.

Gobaith Cefin Campbell

Ac fe ddywedodd Cefin Campbell wrth y dorf sylweddol oedd wedi ymgynull ei fod yn gobeithio mai canlyniad gweithredu’r argymhellion fyddai gweld pob plentyn yn y sir yn gadael yr ysgol yn rhugl yn yr iaith Gymraeg.

“Mae’r Cyngor Sir wedi deffro, gobeithio, ar ôl canlyniadau trychinebus y Cyfrifiad,” meddai.

“Fi’n gobeithio fydd yna ddim ysgol gynradd Saesneg ar ôl yn Sir Gâr – y nod yw bob pob plentyn yn Sir Gaerfyrddin yn gadael yr ysgol yn rhugl yn y Gymraeg.”

Mynnodd hefyd fod yn rhaid i Gyngor Sir Gaerfyrddin newid yn fewnol, ac efelychu awdurdod fel Cyngor Gwynedd sydd yn gweithio drwy’r Gymraeg.

“Mae’n rhaid newid gweinyddiaeth fewnol y cyngor i fod yn bennaf drwy’r Gymraeg,” meddai Cefin Campbell. “Rhaid i hynny newid.”

Fe groesawodd y Cynghorydd Calum Higgins y ffaith fod pleidiau a grwpiau gwleidyddol y cyngor sir wedi cydweithio ar y strategaeth iaith.

“Mae’n bwysig bod mwy o gydweithio,” meddai Calum Higgins. “Achos mae iaith yn bwysicach na gwleidyddiaeth.”