Elis James yn sefyll
Yma mae’r digrifwr yn disgrifio’i gywaith gyda Chris Corcoran ar gyfer y BBC…

Gosteg gyfeillion! Mae is-bwyllgor i bwyllgor adloniant Cymru wedi arfaeth bod The Committee Meeting, rhaglen gomedi gan Chris Corcoran ac Elis James yn cael ei ddangos ar BBC One am 10.30pm ddydd Sadwrn, y 9 Awst. Paratowch i gwrdd â Rex Jones (Elis James) – gofalwr clwb y gweithwyr mewn pentref bach, ac mae ganddo obsesiwn gyda dau beth: rheolau iechyd a diogelwch a Karl Marx. Cadeirydd y clwb yw Mr Chairman (Chris Corcoran), ac un o’i swyddi yw i gadw Rex rhag cwympo mas gyda’i frawd Vernon (Vern Griffiths), gofalwr Clwb y Ceidwadwyr. I gadw pethau yn y teulu, nai Rex sy’n gyfrifol am newyddion y clwb, Steve News – y fath o lanc drygionus bydd pawb o Gymru yn adnabod. Mae The Committee Meeting yn cymysgfa o sgetsys a chyfraniadau o’r gynulleidfa i greu rhaglen gomedi ffres, cyfoes.

Datblygwyd y sioe yn fyw yng Nghanolfan Gelfyddydol y Muni Pontypridd, cyn trosglwyddo i Ŵyl Caeredin yn 2012. Ar ôl mis llwyddiannus iawn yn yr Alban, gyda’r sioe yn gwerthu allan a derbyn adolygiadau gwych, crëwyd rhaglen pilot i BBC Three fel rhan o’r gyfres Feed My Funny. Ar y ffordd sgrifennodd Corcoran a James dwy gyfres o Social Club FM gyda Gareth Gwynn, y fersiwn radio i BBC Radio Wales buodd ar Pick of the Week ar Radio 4 ac yn y Guardian.

Yn 2013 aeth The Committee Meeting ar daith o gwmpas Prydain, yn cyflwyno Rex a Steve News i bobl o Brighton i Fanceinion, gorffennwyd y daith gyda dwy noson yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd. A nawr ma fe’n dod i’r teledu! Yn y rhaglen hon ma Rex a Mr Chairman yn croesawu gwestai arbennig i’r clwb – Doctor Who gorau’r 1980au, Colin Baker!