Mae’n ymddangos fod Bardd y Goron ddydd Llun wedi dod yn agos iawn at gipio dwbl nodedig.

Yn ôl ffynonellau ar Faes yr Eisteddfod yn Llanelli, Guto Dafydd oedd yr ail am y Fedal Ryddiaith ddydd Mercher.

Petai wedi ennill, ef fyddai’r ail i gipio’r ddwy wobr yna – gan ddilyn Dafydd Rowlands yn Hwlffordd yn 1972.

Fel y digwyddodd hi, fe gyflawnodd yr enillydd, Lleucu Roberts, ei dwbwl ei hun, trwy ychwanegu’r Fedal at Wobr Goffa Daniel Owen.

Does dim gwybodaeth eto am yr ail am y Goron ond mae’n hysbys bellach mai’r weithwraig cadwraeth, Elinor Gwynn, oedd un o’r pump nesa’, gyda cherddi i gofio’r bardd Seamus Heaney.