Byddai torf dda tros ddeuddydd ola’ Eisteddfod Sir Gâr yn ddigon i wneud iddi dalu ei ffordd, yn ôl Cyfarwyddwr yr Eisteddfod.
Hynny er fod cyfanswm y torfeydd hyd yma’n siomedig – yr isa’ yn ystod y blynyddoedd diwetha’.
Cyfanswm yr ymwelwyr â’r Maes ddoe oedd 18,740 – is nag yn y ddwy flynedd ddiwetha’ ond yn uwch na’r ddwy gynt.
Mae hynny’n golygu fod 102,424 o bobol wedi bod trwy’r clwydi erbyn diwedd seithfed dydd yr ŵyl – is na’r cyfanswm ar yr un pryd mewn unrhyw eisteddfod yn y deng mlynedd diwetha’.
Dim colled
Ond, yn ôl Elfed Roberts, fe fyddai torfeydd da heddiw a fory yn ddigon i sicrhau nad oedd yr Eisteddfod yn gwneud colled.
Mae’r gronfa leol wedi hen guro’i tharged gan sicrhau fod y gofyn am arian trwy’r clwydi yn llai.
Un esboniad posib am y diffyg pobol yw fod y rhagolygon tywydd wedi bod yn waeth na’r hyn a gafwyd mewn gwirionedd.
Yn ôl Elfed Roberts, roedd y ffigurau’n siomedig o ystyried fod y Maes yn Llanelli wedi teimlo’n llawn y rhan fwya’ o’r wythnos.