Francois Hollande
Mae arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, wedi nodi 100 mlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf gydag apel ar i Israel a’r Palesteiniaid gymodi – yn union fel y gwnaeth Ffrainc a’r Almaen.
Fe draddododd Mr Hollande ei araith deimladwy yn Vieil Armand, Alsace, yn nodi’r dydd yn 1914 pan gyhoeddodd Yr Almaen ryfel yn erbyn Ffrainc.
Ysgwydd ac ysgwydd ag ef yr oedd arlywydd Yr Almaen, Joachim Gauck.
Roedd Mr Hollande yno i gofio’r 30,000 o ddynion a laddwyd yn ardal Vieil Armand, (ardal sy’n cael ei nabod fel ‘Hartmannswillerkopf’ yn Almaeneg). Roedd yn awyddus i atgoffa sut y bu i Ffrainc a’r Almaen gymodi, er gwaetha’r hanes.
“Rwy’n apelio ar i’r byd ddefnyddio hanes yr heddwch rhwng Ffrainc a’r Almaen fel gwers,” meddai, “ac i rwystro mwy o ddioddefaint i bobol gyffredin yn Gaza.”